1
Cân o Senn iw hên FeistrTOBACCO
A Gyfansoddodd Gwasanaethwr Amodol iddo Gynt pan dorodd ar ei Amod ac ef, ynghŷd â'r rhesymau paham y diffygiodd yng ngwasanaeth y Concwerwr beunyddiol hwnnw. Ar hen Dôn ac oedd drigannol yn y Deyrnas hon Lawer blwyddyn faith Cyn Tirio'r crwydryn ynddi ag a Elwid y Frwynen lâs, neu Dan y Coed a Than y Gwydd. Y mae'r 8 sillaf gyntaf o'r breichiau yn groes rowiog o'r draws gyhydedd, a'r berrau'n amlaf yn cyfochri.
Argraffwyd yn Nhre-Hedyn gan Isaac Carter yn y Flwyddyn 1718.
2(2)
printer's ornament

Cân o Sen i'w hen Feistr TOBACCO&c.

CLywch 'feneidiau, Gloch fwy nodol
Ai rhesymol er rhyw swm
Y ddail India ddala undŷn
yn Gyflog-ddyn glŷn ynghlwm,
Rhyw gyffelybiaeth o ddiwiniaeth
deliff y hudoliaeth hwy
Gaffo ei hymsawr megis Trysor
odid mawr y gwadu mwy.
Swyn y dyli sy'n ein dala
y sain leia sûa inni lwl,
Ymgais ffasiwn megis ffisig
a byw tebyg i'r Byd dwl
Lle ymysgdigred Gynt ei Ganed
nis Bendithied Cyn ei daith
Sawl ai sugnai nis bendithiai
'n ol ei chwiff ni ddiolchai chwaith.
Bid tebycach bod Tobacco
yn Taer Geisio rheibio Rhai,
A' in Coeth wysio ni'n Gaethweision
er na ragwybom ni'n bai.
A2PymLLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU 3(3)
Pum mlwydd cyfan rhagor ugain
ar y ddaearen droellen dro
blysu o bleser yn y blas
Hwyr a hanner oriau ennyd
megis hyfryd ddiwyd was
Ymdaith, rhodio, Eistedd, Gweithio,
rhaid oedd Ceisio boddio Bel,
Poeth Aberthu i'r Gau dduw-hynny,
erlyn drewi ar lûn drel.
Penna anrhydedd poeni yn rhodio
yn ysbio eiddo dda,
Gyrru fynydd, gwyro i fyned,
gyrru wared rwydded yr a',
Prynu, pwyso, crasu, briwio
o bawb hebddo cipio ym caid,
Diolch a phlygu, Addo talu
'r Glanddyn hynny rhoe wrth raid.
Rhy ofalus ail Ryfelwyr
dan Goncwerwr pwdwr pell,
Gwasgu oerfyd gwisgo ei arfau,
gwâs ni feddai yn un lle om Gwell,
Blŵch a phibell, dûr a Chyllell,
*ramer gymell ambell Bin,
Stoppel
Gwinwydd parod, fflint a bawcoed,
gefail 4(4)
gefail briod fael ddibrin.
Einioes barod nos a bore
ai addolai yn olau yn ail,
weithiau dylach waith y dail
Troi mwg ddigon i'm Golygon,
nis baent Gleifion lladion llîd,
Deifio'n olau 'm Gwallt a'm aeliau,
wrth ymdrin â'r Dewin du,
Crino mesur (hyd) Crwyn fy mysedd
wnes i'r Llynedd yn y llû
Wrth y wylad tyllu'm dillad,
dyna anfad ruad rym,
Llosgi fy nghoden (pwrs) colli'm harian
a'm * Cyllellan Lafan lym.
Lanset.
Crynai ddyrnaid yn grin ddarnau
o Bibellau fagau fwg,
Os o aflwydd ni chawn winwydd
yna'n Ebrwydd herwydd hyrr,
Neidio'n sydyn, gwylltio am welltyn,
lynio clŷn i'r bonyn byr.
Peri Llanw poeri llawer
sygno 5(5)
Bol yn dannod pylu y dannedd
oedd yn malu ei fywiedd fwyd,
Cymell syched peri im yfed
yn llw llwyed canned llawn,
Er pob maethgen dylu am ddalen
annos Cynnen onis cawn.
Rhai sy'n gosod rhyw esgusion
ei fod e'n peri poeri o'r pen,
E roes dymer i ryw 'stumog
Oedd yn wyntog hyd y nen,
Un o'i fygfa (diffyg anadl) gai waredfa
'r llall o'i 'stumog gai wellhâd
cyn ei weled yn y wlâd.
Llawer myrddiwn (swm mawr amhenodol) yn Lle'r mawrdda
a'i haddola'n benna Bŷd,
Twyllo'n harian, dallu'n oriau,
Rhyw wall ymswŷn fel y cywyn (pla)
sy'n ei Ganlyn Llynn yn llwyr,
Llygru'r ieuengaf Gan yr hynaf,
trech Gan mwya sugna'r ŵyr.
Pan bo'n unfodd bawb yn ynfyd
ple'n y Byd y gwelid gwall
Sengi'r gwaelod sugno'r Gwala
ny 6(6)
ny Argoedda'r Lleia o'r llall.
Rhaid Gan hynny ei gwbl gablu
oni bai ei ddarparu e'n bûr,
Nid gan siopwr ond ffisigwr
y gwnae'n ddofwr cwnnwr (codwr) cûr.
Dyna hanes Dewin hynod
welso'i Gynt yn ddefod dda,
Hyd ni synnod DUW im fyned,
wfftio blined Eifftaidd bla,
Trwy DDUW eto rwy'n Gobeithio
i fyw hebddo ai feio fi.
Ffarwel ddeiliach biwyn bawach
Terfyn y Gân.

MAe'n debygol ddyfod or dôn yma oddi wrth hen fesur, cynnil Gorchestol, Canmoladwy ymhlith y Cymry Gynt, yr hwn â alwent hwy y Tawddgyrch Cadwynog. Ac er mwyn hogi synhwyrau'r deallus a'r ymofyngar a phrydyddion Ifeinc, mi ychwanegaf Air ar y mesur hwnnw, er Clodfori dyddiau Gŵyl Bedr. Nid yw breichiau na y pennill onid un sillaf ymhob rhan yn hwy na'r Gân uchod.

adwyl 7(7)
* Adwŷl Bedr, deil wybodau,
Gwyl ganlynol
Lliwiog * Rhodau, llewyg Rhydiad,
Blodau Sidellog.
A da hyder, ûd a hodau,
*Gwyrth cafodau, Gwerth cû fydiad
Gwrtheiu.
Ar y nodau, yn ôl Blodau,
yr a codau, Ar ei cydiad
A gweirglodau, yn llawn ystodau
Gwir Amodau , Gwair a mudiad.

Y mae'r pennill yma yn Toddi, yn cyrchu, ac yn Cadwyno, ac a Genir bob yn bedair sillaf mewn amryw ffyrdd heblaw wyneb a Gwrthwyneb. Chwilied ai Gwypo.

Y mae'r Awdurdod prydyddol yn caniatàu i estyn neu fyrhau Geiriau yn y Cyfryw fesuron tro na thwyller mo'i hystyriaeth.

Hen Englyn a osodid i mewn i Gyflawni'r ddalen.

Canlyn a dilyn deiliach, a'r bibell
wna'r bobl yn feddwach,
Fe ddaw'r fflagen fargen fâch,
fain ochor yn fynychach.
Ychydig 8(8)

Ychydig Chwanegiad o waith yr ûn Gŵr ar yr un Testun ar dôn Arall.

Chwerw felen ddeilen ddu,
droe yma i dramwyo,
Yma i'n suo fel y fecc,
lle tycio clec Tobacco.
Y mae'n olau ei feiau fo,
i'r neb a wylio ei waelwaith,
Tyngu'n rhodd a rhegi'n rhwydd,
a dwedyd Celwydd Eilwaith.
Llygru'n dawel Lawer dyn,
Wario ei Ennill cynnil cas,
dan fynd i Blas difwynder.
Câdd dair Rhinwedd ryfedd fry,
Troi diogi mewn unwedd,
gas ddirio maswedd eiriau.

TERFYN

About this text

Title: Cân o senn iw hên feistr Tobacco.
Edition: Taylor edition
Series: Taylor Editions: Guest
Editor: Edited by Lois Llywelyn Williams.

Other Resources

About this edition

This is a facsimile and transcription of Cân o senn iw hên feistr Tobacco.. It is held by Llyfrgell Genedlaethol Cymru – The National Library of Wales (shelf mark PRINT W.s. 156 ).

The transcription was encoded in TEI P5 XML by Lois Llywelyn Williams.

Availability

Publication: Taylor Institution Library, one of the Bodleian Libraries of the University of Oxford, 2021. XML files are available for download under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International License . Images are reproduced from Llyfrgell Genedlaethol Cymru – The National Library of Wales.

ORA download

Source edition

Cân o senn iw hên feistr Tobacco. Tre-Hedyn : Isaac Carter, 1718  

Editorial principles

Created by encoding transcription from printed text.

This is a diplomatic transcription of the original text of NLW W.S. 156 displaying standardised modern spellings alongside the option of displaying the text's original spellings with the aim of increasing its readability. In some cases, standardising the spellings impairs the rhyme of the ballad and poems, and thus standardisation should be used by the reader as a linguistic reference rather than a replacement for the original words. For original spellings, typographic variations have been recorded as they appear in the original, including the use of 'j' where 'i' would be expected in modern Welsh. This transcription distinguishes between the long 'ſ' and 'f', which is occasionally indistinguishable in the printed text. Capital letters and punctuation have been preserved as in the print. Printing errors such as itallicised or capitalised letters have been retained, with misspellings being displayed alongside the standardised correction. Prose text has been encoded as free-flowing paragraphs and does not reflect the original print's line breaks. Catchwords are included in the transcription.